mysql a’r gwall “unknown or incorrect time zone”
December 16, 2007
Os yw mysql yn dweud:
Unknown or incorrect time zone: ‘UTC’
dydy hi ddim yn gwneud y gronfa parth amser. Gallwch chi wneud prawf os teipwch chi
mysql> SET time_zone=’UTC’;
Mae hi’n llwyddo os mae’r gronfa yn gwneud y parth amser. Dylai hi.
Dyma’r ateb:
bash$ mysql_tzinfo_to_sql /usr/share/zoneinfo/|mysql -u root mysql -p
yw’r orchymyn sy’n cyweirio’r broblem. Collwch y -p os mae ddim o gyfrinair gan eich cyfrif uwchddefnyddiwr chi (os rydych chi’n ynfyd).
ack (a less)
December 14, 2007
Mae “ack” yn rhaglen ddefnyddiol iawn. Amnewidyn “grep” yw hi, ond sy wedi ysgrifennu yn cywir, gan yr opsiynau y mae’r rhaglennwyr eu eisiau. Ac mae hi’n gwybod anwybyddu ffeiliau Subversion. Dw i’n ei chymeradwyo hi.
Os dach chi eisiau gweled “ack” yn lliw, ychwanegwch y llinell ‘ma i eich “~/.bashrc” chi:
export ACK_OPTIONS=–color
Ac os dach chi eisiau iwsio “less” gan “ack”, ychwanegwch y llinell ‘ma i eich “~/.bashrc” chi:
export LESS=-R
Llyn Gwern Las
May 23, 2004
Dydd Sadwrn, aethom ni i Llyn Gwern Las yn Swydd Berks gan Ffin, Rhio, Floatyfish, ei tad hi, ac Onib.
Mr Harbison, tad Floatyfish, yn ei fad e
A dyma lluniau eraill. Diolch i Ffin, y ffotograffydd!
Nos Sadwrn, gwylion ni ffilmau: Shrek a Nightmare before Christmas. Oedd dydd Sadwrn yn dda iawn.